Parsiwr dibyniaethau arbrofol sy'n ceisio gwahaniaethu rhwng defnydd enwol a berfol o'r berfenw. Ar sail UD_CCG: https://github.com/UniversalDependencies/UD_Welsh-CCG/ .
Gweler yma am ragor o wybodaeth am y cymhellaid: https://github.com/techiaith/parsiwr-dibyniaethau
Er mwyn defnyddio’r gydran hon, bydda angen i chi yn gyntaf osod llyfrgell spaCy (https://spacy.io/usage), ac yna gosod y pecyn iaith Cymraeg o https://github.com/techiaith/spacy-lang-cy.
Unwaith y bydd rheini wedi eu gosod gennych, gallwch osod y model fel a ganlyn drwy lwytho'r pecyn i lawr a llywio i'r cyfeiriadur lle cafodd y ffeil ei lawrlwytho a rhedeg:
pip install cy_model0-0.0.0.tar.gz
Yna, o fewn sgript Python, gallwch lwytho’r model fel a ganlyn:
import spacy
nlp = spacy.load("cy_model")
doc = nlp("roedd yn rhyfeddu mor dda oedd y canu")
print ([(t.text, t.tag_) for t in doc])
Bydd y canlyniadau wedyn yn gwahaniaethu rhwng berfenw berfol fel yn yn rhyfeddu ac un enwol fel yn y canu.
>>> [('roedd', 'auxverb'),
('yn', 'impf'),
('rhyfeddu', 'verbal_vn'),
('mor', 'adv'),
('dda', 'pos'),
('oedd', 'aux'),
('y', 'art'),
('canu', 'nominal_vn')]
I ddelweddu’r parsiad, defnyddiwch y canlynol:
import spacy
from spacy import displacy
nlp = spacy.load("cy_model")
doc = nlp("roedd yn rhyfeddu mor dda oedd y canu")
displacy.serve(doc, style="dep")
>>> Using the 'dep' visualizer
Serving on http://0.0.0.0:5000 ...
Wedyn, bydd modd i chi ymweld â http://0.0.0.0:5000 a gweld y delweddiad canlynol:
Diolch i Lywodraeth Cymru am ariannu'r gwaith hwn fel rhan o broject Technoleg Cymraeg 2023-24.
An experimental dependency parser which attempts to differentiate between nominal and verbal verbnouns.Based on UD_CCG.
See here for more information regarding the underlying motivation: https://github.com/techiaith/parsiwr-dibyniaethau