Skip to content

Gweinydd syml ar gyfer ddarparu gwasanaeth API at modelau adnabod lleferydd DeepSpeech // Simple server for providing API access to DeepSpeech speech recognition models.

License

Notifications You must be signed in to change notification settings

techiaith/docker-deepspeech-cy-server

Repository files navigation

docker-deepspeech-server-cy

Cefndir

Mae 'na ddwy fath o beiriant adnabod lleferydd Cymraeg - y ddau wedi eu hyfforddi i ymateb yn well i wahanol ddefnyddiau..

1 - peiriant adnabod cwestiynau neu orchmynion i'r ap Macsen (gelwir y peiriant felly yn 'macsen')

2 - peiriant adnabod lleferydd mwy rhydd ac agored - h.y. gyd-destun defnydd trawsgrifio (transcription) (gelwir felly'r peiriant yn 'transcribe')

Gosod

Os hoffwch chi'r peiriant arddweud, yna dyma'r camau i'w ddilyn ar beiriant Mac OS X/Linux a Windows (os oes gennych chi Docker wedi'i osod) i osod yn gyntaf

$ git clone https://github.com/techiaith/docker-deepspeech-server-cy
$ cd docker-deepspeech-server-cy
$ make build-transcribe

Defnyddio

Yna i redeg, does ond angen un gorchymyn ychwanegol..

$ make run-transcribe

I ei brofi'n syml, mae'n bosib gyrru'r ffeil wav enghreifftiol sydd wedi'i gynnwys o fewn y project. Felly...

$ curl -F '[email protected]' localhost:5501/speech_to_text/
{"success": true, "version": 1, "text": "mae ganddynt ddau o blant mab a merch"}

$ curl -F '[email protected]' localhost:5503/speech_to_text/
{success": true, "version": 1, "text": "beth yw newyddion cymru"} 

Mae modd defnyddio recordiadau eich hunain, cyn belled â'u bod ar ffurf wav ac yn 16kHz, un sianel.

Ewch i http://localhost:5501/static_html er mwyn defnyddio'r peiriant adnabod lleferydd gyda sain o feicroffon lleol.

Rhybudd

Rhaid cofio ni fydd y canlyniadau pob tro yn hollol gywir. Rydyn wedi mesur y gyfradd gwallau yn 33%, sydd yn uchel iawn i'w gymharu â Saesneg ac ieithoedd mawr eraill sydd â chyfraddau o dan 8%.

Mae mesur gallu'r peiriant yn ogystal â'i wella yn waith sy'n dal yn parhau.

Yn y cyfamser, os hoffwch chi weld y peiriannau yn gwella, yna recordiwch rhai brawddegau wefan Mozilla CommonVoice (https://voice.mozilla.org/cy), fel bydd gennyn ni ragor o ddata hyfforddi'r peiriannau. Neu defnyddiwch ein hap Macsen! (http://techiaith.cymru/macsen)

About

Gweinydd syml ar gyfer ddarparu gwasanaeth API at modelau adnabod lleferydd DeepSpeech // Simple server for providing API access to DeepSpeech speech recognition models.

Topics

Resources

License

Stars

Watchers

Forks

Packages

No packages published

Contributors 3

  •  
  •  
  •